Curious about studying Cymraeg - BA (Hons)at Cardiff University? We've gathered all the key details—entry requirements, modules, fees, and more. Hear from real students by checking out reviews, or take the next step by booking an open day to explore it for yourself.
Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
Cardiff University - Cathays Park Campus
Full Time
Sep 2026
3 Year
Ar ein gradd BA mewn Cymraeg, byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o'r Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i diwylliant. Byddwch yn cyflawni lefel uchel o sgiliau mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar, sgiliau allweddol mewn cydweithio a meddwl yn feirniadol, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol sydd wedi'u datblygu'n dda sy'n berthnasol i'r Gymru fodern a thu hwnt. Byddwn yn eich cefnogi i ymgysylltu'n feirniadol ac yn greadigol â'r cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu'r Gymraeg fel iaith leiafrifol mewn ffordd agored a chydweithredol, gan ystyried pwysigrwydd cynaliadwyedd diwylliannol ac amgylcheddol. Rydym yn croesawu’r rhai sydd wedi astudio’r Gymraeg naill ai fel iaith gyntaf neu ail iaith. Os yw'r Gymraeg yn ail iaith i chi, byddwch yn cael modiwlau penodol yn y flwyddyn gyntaf i ymarfer a gwella eich sgiliau cyfathrebu ac iaith. Ar ôl hyn, mae myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith yn dod at ei gilydd gyda chymorth pellach i fyfyrwyr ail iaith mewn tiwtorialau iaith a chyfathrebu. Mae modiwlau craidd yn ffurfio asgwrn cefn y radd ac yn rhoi sylfaen gref ar gyfer archwilio iaith, llenyddiaeth, hunaniaeth a chynaliadwyedd ar draws cyd-destunau hanesyddol a chyfoes. Mae modiwlau dewisol yn caniatáu ichi deilwra'ch astudiaethau i'ch diddordebau personol neu broffesiynol, gyda chyfleoedd i ymchwilio i feysydd fel polisi iaith ac ysgrifennu creadigol. Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau proffesiynol ac yn dyfnhau eich dealltwriaeth o rôl y Gymraeg yn y gweithle trwy leoliad gwaith pwrpasol lle defnyddir y Gymraeg bob dydd. Byddwch yn dod â'ch sgiliau a'ch gwybodaeth at ei gilydd drwy ymgymryd â phrosiect ymchwil neu bortffolio creadigol lle byddwch yn cymryd perchnogaeth o'ch dysgu drwy ddylunio a chyflwyno prosiect ar bwnc o'ch dewis sy'n gysylltiedig â'r Gymraeg. Byddwch yn graddio gydag ystod o sgiliau proffesiynol, gan gynnwys cydweithio, cyfathrebu a dadansoddi beirniadol. Byddwch hefyd yn ymwybodol o'r heriau ieithyddol a diwylliannol sy'n wynebu cymdeithasau amlieithyddol mewn cyd-destunau byd-eang, a bydd gennych y syniadau a'r hyder y mae eu hangen i'w datrys.
Nodweddion Unigryw’r RhaglenDilyn eich diddordebau
Dewiswch o fodiwlau ar draws ystod o feysydd mewn llenyddiaeth ac iaith Gymraeg.
Hyder yn y gweithleDeall y cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu'r Gymraeg mewn lleoliadau proffesiynol, a meithrin eich hyder a'ch sgiliau ymarferol trwy ddefnyddio'r Gymraeg ar leoliad.
Cyfrannu at fywyd Cymreig bywiogCysylltwch â siaradwyr Cymraeg o bob cefndir a chwarae rhan wrth gryfhau'r Gymraeg yng Nghaerdydd.
Meddwl dros eich hunYmdriniwch yn feirniadol ac yn greadigol â gwahanol fathau o destunau mewn ffordd annibynnol a meddwl agored.
Cyfathrebu'n effeithiolDefnyddiwch eich sgiliau Cymraeg i rannu eich syniadau a'ch barn â gwahanol gynulleidfaoedd, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
CCC-BBC Grades/points required
Not currently available, please Contact University for up to date information.