Curious about studying Cymraeg a Cherddoriaeth - BA (Hons)at Cardiff University? We've gathered all the key details—entry requirements, modules, fees, and more. Hear from real students by checking out reviews, or take the next step by booking an open day to explore it for yourself.
Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
Cardiff University - Cathays Park Campus
Full Time
Sep 2026
3 Year
Drwy gyfuno’r Gymraeg a Cherddoriaeth, byddwch yn ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy, gan agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa. Gall gradd gydanrhydedd eich symbylu a rhoi boddhad, wrth ichi sylwi ar nodweddion tebyg a gwahaniaethau rhwng y ddau bwnc. Yn aml ceir materion a safbwyntiau sy’n cysylltu’r pynciau, boed y rheiny’n ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destun hanesyddol, neu’n ymchwil diweddar. Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern. Mae rhaglenni israddedig yr Ysgol Cerddoriaeth yn hyblyg ac yn heriol, gan roi cyfle ichi arbenigo a datblygu eich diddordebau eich hun ochr yn ochr â chael eich trwytho ym meysydd estheteg cerddoriaeth, dadansoddi, cyfansoddi, ethnogerddoreg, hanes cerddoriaeth, a pherfformiad. Mae lleoliad yr ysgol yn ychwanegu’n fawr at ei hapêl ar gyfer selogion cerddoriaeth, gan fod Caerdydd yn lleoliad gwych ar gyfer astudio cerddoriaeth yn y DU: mae gan y ddinas gwmni opera proffesiynol, Opera Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Symffoni broffesiynol, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae’r Ysgol Cerddoriaeth yn mwynhau perthynas gynhyrchiol gyda'r ddau sefydliad sy'n caniatáu, er enghraifft, i fyfyrwyr fynychu ymarferion gwisg a phrynu tocynnau rhad ar gyfer cyngherddau.
Nodweddion nodedig- y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle - modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith - ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa - y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa - y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol - y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil - y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn - mae'r hyfforddiant offerynnol yn cael ei ariannu'n llawn gan yr Ysgol Cerddoriaeth ar gyfer y prif offeryn yr ydych chi’n ei astudio, gan gynnwys cyfeiliant yn eich datganiad terfynol. - y modiwl Busnes Cerddoriaeth sy’n cynnig lleoliad gwaith byr - cyfleoedd dysgu fel gweithdai cyfansoddi, y dosbarthiadau meistr ar berfformio, cyfres cyngherddau’r Brifysgol, darlithoedd John Bird gan academyddion gwadd, ynghyd â’r sgyrsiau gyrfaoedd sy’n cynnig cyfleoedd i ddod i gysylltiad â gweithwyr proffesiynol sy’n weithredol ym myd cerddoriaeth