Want to know what it's like to study this course at uni? We've got all the key info, from entry requirements to the modules on offer. If that all sounds good, why not check out reviews from real students or even book onto an upcoming open days?
Postgraduate Certificate in Education - PGCE
Main Site
Full Time
SEP-26
1 Year
Select a course option
Postgraduate Certificate in Education - PGCE
Main Site
Full Time
SEP-26
1 Year
Select a an exam type
UCAS Code: 3D2Z
TAR Uwchradd - Gweithgareddau Awyr Agored (GAA) (gyda SAC)Rhannwch eich brwdfrydedd am yr awyr agored gyda'r rhaglen gweithgareddau awyr agored TAR, yr unig gyfle i ennill TAR gyda SAC mewn addysg awyr agored ac antur yn y DU. Gyda pharc cenedlaethol Eryri ar garreg ein drws, lleoliad campws yn llythrennol ar lannau’r Fenai, dim ond eich dychymyg fydd yn cyfyngu ar eich cyfleoedd i addysgu a dysgu yn yr awyr agored. Bydd cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a llawer o sesiynau profiad ymarferol yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o sut mae plant a phobl ifanc yn dysgu yn yr awyr agored ac yn rhoi’r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i fod yn athro arloesol yn yr awyr agored.Yma ym Mangor, byddwn yn sicrhau bod gennych y rhinweddau sydd eu hangen nid yn unig i fod yn athro addysg awyr agored ac antur rhagorol, ond hefyd yn addysgwyr awyr agored (gan symud y tu hwnt i hyfforddiant awyr agored), gyda'r gallu i gyfrannu at y cwricwlwm iechyd a lles ehangach, boed hynny mewn canolfan addysg awyr agored breswyl neu addysgu mewn ysgol. Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd unigryw i ddatblygu eich sgiliau addysgu ym maes arall o'r cwricwlwm gyda'n rhaglen dull ar y cyd lle gallwch gyfuno llawer o'n pynciau TAR eraill gyda Gweithgareddau Awyr Agored. Os yw eich gradd mewn pwnc nad yw'n gysylltiedig â'r awyr agored ond bod gennych brofiad sylweddol o weithio yn yr awyr agored efallai y bydd y llwybr llawn her ond buddiol hwn yn addas i chi. Mae'r rhaglen Gweithgareddau Awyr Agored yn gweithredu fel dull ar y cyd neu lwybr un dull yn dibynnu ar eich gradd a'ch profiad.
Pam astudio gyda ni?• Pa le gwell i astudio addysg awyr agored ac antur nag ar gyrion parc cenedlaethol Eryri gydag arfordir Ynys Môn sydd gyda’r gorau yn y byd ar garreg ein drws. Y rhaglen Gweithgareddau Awyr Agored yw’r cwrs addysg athrawon addysg awyr agored sydd wedi cael ei gynnar hiraf yn y DU a dyma’r unig gwrs erbyn hyn sy’n cynnig SAC trwy TAR mewn addysg antur ac awyr agored.• Mae storfa o offer ardderchog yn golygu y gallwch weithio tuag at wobrau corff llywodraethu cenedlaethol heb fod angen buddsoddi'n drwm mewn cychod, beiciau, offer dringo neu offer ac mae llawer o gyfleoedd i gyfoethogi'ch astudiaethau trwy fynd ar deithiau tramor a sesiynau datblygu sgiliau.• Bydd tiwtoriaid profiadol ac ymchwilwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn dysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fod yn addysgwyr y dyfodol. Bydd profiadau ysgol arweiniol a chanolfan breswyl gyda mentoriaid medrus a phrofiadol iawn, ynghyd â lleoliadau mewn ysgolion a chanolfannau addysg awyr agored preswyl yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig.• Cewch gyfle i astudio tra'n ymdrochi yn niwylliant, iaith ac amgylchedd Cymru, yma ym mhrydferthwch gogledd Cymru. Cewch gefnogaeth broffesiynol i ddysgu Cymraeg p'un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu'n rhugl yn yr iaith.Gallwch ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.Caiff y TAR hwn gyda SAC ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml gellir ei drosglwyddo ymhellach na hynny i fynd i mewn i'r proffesiwn dysgu. Dylai'r rhai sy'n dymuno dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod yno ac yn drosglwyddadwy.
Students living in
Domestic
£9,790 per year
Students from Domestic
This is the fee you pay if the University is in the same country that you live in (England, Scotland, Wales, Northern Ireland)
£9,790 per year
Students from England
£9,790 per year
Students from Scotland
£9,790 per year
Students from Wales
£9,790 per year
Students from Northern Ireland
£9,790 per year
Students from Channel Islands
£19,000 per year
Students from International
The amount you'll pay if you come to study here from a country outside the EU.
Bangor University offers an exceptional experience set amidst the captivating landscapes of North Wales, where courses spanning the...