Curious about studying Cemeg gyda GAA - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig)at Bangor University? We've gathered all the key details—entry requirements, modules, fees, and more. Hear from real students by checking out reviews, or take the next step by booking an open day to explore it for yourself.
Postgraduate Certificate in Education - PGCE
Main Site
Full Time
Sep 2026
1 Year
UCAS Code: 3F5D
TAR Uwchradd - Cemeg gyda GAA (gyda SAC)Ydych chi’n angerddol am Gemeg a byd sylweddau, ac a allech chi drosglwyddo'r angerdd hwn i eraill. Gogledd Cymru yw’r lle perffaith i ddysgu i ysbrydoli eraill am Gemeg gyda phrifysgol sy’n cyfuno cefndir gwyddoniaeth ac addysg cryf ag angerdd am herio ein myfyrwyr a bod yn un o’r lleoedd mwyaf prydferth ac ysbrydoledig i fyw ynddo. Os mai dysgu Cemeg yw'r yrfa i chi, yna Bangor yw'r lle i chi. Gyda'n labordai addysgu newydd, staff angerddol, ac ysgolion partneriaeth gwych byddwch yn dysgu'r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i ysbrydoli eraill. Yma ym Mangor, byddwn yn sicrhau bod gennych y rhinweddau sydd eu hangen nid yn unig i fod yn athro/athrawes Cemeg rhagorol, ond hefyd yn athro/athrawes gwyddoniaeth, trwy roi cyfle i chi archwilio agweddau eraill ar y Cwricwlwm Gwyddoniaeth. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar un o’r cwricwla newydd mwyaf cyffrous y byd ar hyn o bryd, y Cwricwlwm newydd i Gymru, ond bydd y sgiliau y byddwch yn eu hennill yn eich paratoi i addysgu yn unrhyw le. Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â'n cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfuno'r pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant.
Pam astudio gyda ni?Ble gwell i astudio ar gyfer eich cymhwyster TAR Cemeg nag yma ym Mangor, gyda’n profiad gwyddoniaeth unigryw, ein profiad o ddysgu yn yr awyr agored a phrifysgol gyda choleg sy’n ganolfan flaenllaw yn y Deyrnas Unedig ar gyfer addysgu ac ymchwil mewn ystod eang o bynciau gwyddonol. • Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn addysgwyr y dyfodol. Bydd profiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau Leoliad Ysgol yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig. • Cyfle i astudio tra'n ymgolli yn niwylliant ac iaith Cymru, yma ym mhrydferthwch Gogledd Cymru. Cefnogaeth broffesiynol ar gyfer dysgu Cymraeg p'un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu'n ddefnyddiwr rhugl o'r iaith. Byddwch yn ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Mae'r TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae'n drosglwyddadwy ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwys gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw.
Bangor University offers an exceptional experience set amidst the captivating landscapes of North Wales, where courses s...