Curious about studying Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid - BA (Hons)at Bangor University? We've gathered all the key details—entry requirements, modules, fees, and more. Hear from real students by checking out reviews, or take the next step by booking an open day to explore it for yourself.
Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
Main Site
Full Time
Sep 2026
3 Year
Wrth astudio Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid, byddwch yn dod i gysylltiad â’r myrdd o faterion cyfoes sy’n effeithio ar blentyndod ac ieuenctid, a chymhlethdodau bywyd modern yn erbyn cefndir newidiadau diwylliannol, cymdeithasol, economaidd, addysgol a gwleidyddol byd-eang. Mae’r radd gyfrwng Cymraeg hon yn ddelfrydol i siaradwyr Cymraeg a phobl sydd eisiau gweithio yng Nghymru. Mae’n edrych ar amrediad llawn profiadau plant a phobl ifanc hyd at dyfu i fod yn oedolion. Mae hyn yn cynnwys llencyndod, hawliau plant, datblygiad, dysgu, chwarae, hunaniaeth, diogelu, iechyd meddwl ac amrywiaeth. Ym Mhrifysgol Bangor, mae gan ein tîm addysgu arbenigedd a chefndiroedd mewn seicoleg, cymdeithaseg, hawliau plant, ieithyddiaeth, addysg, fforenseg, iechyd a lles. Byddwch yn cyfarfod ag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol aml-asiantaeth, a fydd yn rhannu eu profiadau o ddatblygu partneriaethau llwyddiannus gyda phlant a phobl ifanc a'u teuluoedd. Byddwch yn gallu dysgu sgiliau damcaniaethol ac ymarferol wrth gefnogi plant a phobl ifanc, gan gynnwys cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol ac anawsterau cyfathrebu trwy fanteisio ar gyfleoedd i ddysgu technegau cymorth cyfathrebu. Mae ehangder a dyfnder y radd Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid amlddisgyblaethol hon yn eich paratoi at amrywiaeth eang o yrfaoedd. Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad. Cwrs cyfrwng Cymraeg yw hwn. Am y cwrs cyfrwng Saesneg, gweler Childhood and Youth Studies, X313.
96-120 Grades/points required
Not currently available, please Contact University for up to date information.
Bangor University is in a beautiful area between the mountains and the sea in North Wales. Students are given the opport...