Curious about studying Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg - BA (Hons)at Bangor University? We've gathered all the key details—entry requirements, modules, fees, and more. Hear from real students by checking out reviews, or take the next step by booking an open day to explore it for yourself.
Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
Main Site
Full Time
Sep 2026
3 Year
Mae’r radd Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg yn mynd i’r afael â’r galw cynyddol am raddedigion Cymraeg eu hiaith sydd â’r wybodaeth am ddiwylliant Cymru a’r arbenigedd proffesiynol sydd eu hangen i weithio’n effeithiol ac yn empathetig â phobl ifanc a’u teuluoedd mewn gwahanol gyd-destunau. Mae’n radd ar y cyd sy’n cyfuno dysgu am iaith, llenyddiaeth a diwylliant Cymru ag archwilio i’r sbectrwm llawn o brofiadau plentyndod ac ieuenctid, o’r cenhedlu i’r trawsnewid i fod yn oedolyn. Mae hyn yn cynnwys llencyndod, hawliau plant, datblygiad, dysgu, chwarae, hunaniaeth, diogelu, iechyd meddwl ac amrywiaeth. Byddwch yn archwilio ac yn trafod hanes, llenyddiaeth, a diwylliant Cymru gan wella eich hyfedredd ieithyddol ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol. Ym Mhrifysgol Bangor, mae astudiaethau academaidd o iaith a llenyddiaeth Gymraeg yn eang ac amrywiol. Gallwch astudio a mwynhau amrywiaeth eang o lenyddiaeth Gymraeg, archwilio gwleidyddiaeth Cymru a gwahanol gyfnodau o hanes er enghraifft. Wrth astudio Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid, byddwch yn dod i gysylltiad â’r myrdd o faterion cyfoes sy’n effeithio ar blentyndod ac ieuenctid, a chymhlethdodau bywyd modern yn erbyn cefndir newidiadau diwylliannol, cymdeithasol, economaidd, addysgol a gwleidyddol byd-eang. Mae’r radd cyfrwng Cymraeg hon yn ddelfrydol ar gyfer siaradwyr Cymraeg a’r rhai sy’n dymuno dilyn gyrfa yng Nghymru. Byddwch yn gallu dysgu sgiliau damcaniaethol ac ymarferol wrth gefnogi plant a phobl ifanc, gan gynnwys cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol ac anawsterau cyfathrebu trwy fanteisio ar gyfleoedd i ddysgu technegau cefnogi cyfathrebu. Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.
Accommodation -Rent for premium studios £8,580.71 (approx. £205 per week) International Experience Year or a Placement Year - 1350
Bangor University is in a beautiful area between the mountains and the sea in North Wales. Students are given the opport...